Rheoliadau drafft a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 187(2)(f) o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016, i’w cymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

2019 Rhif (Cy. )

GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU

Rheoliadau Gwasanaethau Eirioli Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) (Diwygio) 2019

NODYN ESBONIADOL

(Nid ywʼr nodyn hwn yn rhan oʼr Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud mân ddiwygiadau i Reoliadau Gwasanaethau Eirioli Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019 (O.S. 2019/165 (Cy. 41)) (“y Rheoliadau Gwasanaethau Eirioli”) er mwyn cywiro gwallau yn yr offeryn hwnnw.

Mae rheoliad 6(4)(c) o’r Rheoliadau Gwasanaethau Eirioli yn darparu, pryd bynnag nad yw’r unigolyn cyfrifol yn gallu cyflawni ei ddyletswyddau, fod rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod trefniadau yn eu lle er mwyn i’r gwasanaeth gydymffurfio â gofynion y rheoliadau yn Rhannau 3 i 15. Mae rheoliad 2(a) o’r Rheoliadau hyn yn diwygio rheoliad 6(4)(c) o’r Rheoliadau Gwasanaethau Eirioli er mwyn ei gwneud yn ofynnol i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod trefniadau yn eu lle hefyd er mwyn i’r gwasanaeth gydymffurfio â gofynion y rheoliadau yn Rhan 2 o dan amgylchiadau o’r fath.  

Mae rheoliad 7(3)(c) o’r Rheoliadau Gwasanaethau Eirioli yn darparu, pryd bynnag y mae darparwr gwasanaeth sy’n unigolyn yn absennol, fod rhaid i’r unigolyn hwnnw sicrhau bod trefniadau yn eu lle er mwyn i’r gwasanaeth gydymffurfio â gofynion y rheoliadau yn Rhannau 3 i 15. Mae rheoliad 2(b) o’r Rheoliadau hyn yn diwygio rheoliad 7(3)(c) o’r Rheoliadau Gwasanaethau Eirioli er mwyn ei gwneud yn ofynnol i’r unigolyn sicrhau bod trefniadau yn eu lle hefyd er mwyn i’r gwasanaeth gydymffurfio â gofynion y rheoliadau yn Rhan 2 o dan amgylchiadau o’r fath.    

Mae rheoliad 2(c) yn diwygio rheoliad 15(2)(d) o’r Rheoliadau Gwasanaethau Eirioli er mwyn rhoi “comisiynwyr gwasanaethau” yn lle’r cyfeiriad at “awdurdodau comisiynu”.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas âʼr Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.


Rheoliadau drafft a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 187(2)(f) o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016, i’w cymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

2019 Rhif (Cy. )

GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU

Rheoliadau Gwasanaethau Eirioli Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) (Diwygio) 2019

Gwnaed                                                  ***

Yn dod i rym                      1 Gorffennaf 2019

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 27 a 187(1) o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016([1]).

Gosodwyd drafft o’r Rheoliadau hyn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddo drwy benderfyniad yn unol ag adran 187(2)(f) o’r Ddeddf honno.

Enwi a chychwyn

1. Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwasanaethau Eirioli Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) (Diwygio) 2019 a deuant i rym ar 1 Gorffennaf 2019.

Diwygiadau i Reoliadau Gwasanaethau Eirioli Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019

2. Mae Rheoliadau Gwasanaethau Eirioli Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019([2]) wedi eu diwygio fel a ganlyn—

(a)     yn rheoliad 6(4)(c), yn lle “Rhannau 3 i 15” rhodder “Rhannau 2 i 15”;

(b)     yn rheoliad 7(3)(c), yn lle “Rhannau 3 i 15” rhodder “Rhannau 2 i 15”;

(c)     yn rheoliad 15(2)(d), yn lle “awdurdodau comisiynu” rhodder “gomisiynwyr gwasanaethau”.

 

 

Enw

Y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, o dan awdurdod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

Dyddiad



([1])           2016 dccc 2.

([2])           O.S. 2019/165 (Cy. 41).